Amgueddfa Glowyr De Cymru
Amgueddfa Glowyr De Cymru
Ddiwedd y 1970au, daeth cloddio am lo i ben yng nghwm Afan, ac wrth wynebu tebygolrwydd diweithdra, daeth y bobl leol ynghyd i sefydlu Amgueddfa Glowyr De Cymru. Roedd eu nod yn syml, sef dangos i'r byd beth oedd bywyd y glöwr Cymreig mewn gwirionedd.
Heddiw, mae'r amgueddfa sydd newydd ei hadnewyddu, yn cynnwys Ystafell Lampau, Ty'r Injan a'r Olwyn Sheave. Y rhan fwyaf teimladol yn yr amgueddfa yw'r arddangosfa sy'n dangos y gwaith yr oedd plant yn ei wneud dan ddaear. Mae hon yn creu argraff ddofn ar ymwelwyr ac yn adlewyrchiad teg o'r peryglon a wynebai'r rhai a weithiai yn y pyllau glo.
Am fwy o wybodaeth, ewch i www.southwalesminersmuseum.com
Hygyrchedd: Yn hygyrch i bawb. Toiledau i'r anabl ar y safle.
Cysylltwch â: Canolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan ar 01639 850564 / www.afanforestpark.co.uk
Bws: Gwasanaeth 23 bob awr o Bort Talbot ddydd Llun – ddydd Sadwrn, 159 o Abertawe neu Gastell-nedd, newid i wasanaeth cysylltu 23 ym Mhont-rhyd-y-fen.