Camlas Abertawe
Mae Camlas Abertawe yn cyfrannu at rhwydwaith o gamlesu sydd yng Nghastell-nedd Port Talbot sydd hefyd yn cynnwys Camlas Castell-nedd a chamlas Tenant yng nghwm Nedd. Mae rhannau o gamlas Tennant hefyd yn ymdroelli drwy Gwm Tawe sydd yn llawn o ddiwylliant ac yn gartref i’r Wyl Pontardawe.
Mae Camlas Abertawe’n rhedeg am 16 milltir a chafodd ei hadeiladu rhwng 1794 a 1798 er mwyn cludo glo. Roedd yn cysylltu pen Cwm Tawe a Dociau Abertawe yng nghanol dinas Abertawe. Yn ystod y cyfnod o 1830 i 1840 gwelwyd datblygu trefi o gwmpas y gamlas megis Pontardawe, Ynysmeudwy ac Ystalyfera. Roedd y gamlas yn dal i fod yn brysur iawn tan yn gynnar yn yr 20fed ganrif, gyda 400,00 tunnell o lo’n cael ei gario i Abertawe.
Heddiw, mae pum milltir o’r gamlas rhwng Clydach a Phontardawe yn rhan o Lwybr Beicio Cenedlaethol 43 sydd yn ei wneud yn le delfrydol ar gyfer teithiau beicio i’r teulu, mae’n hafan i fywyd gwyllt ac yn le hardd i fynd am dro braf ar hyd y gamlas gyda golygfeydd prydferth ar draws Cwm Tawe.
Hygyrchedd: Yn hygyrch i bawb.
Cysylltwch â: Y Ganolfan Croeso ar 01639636674
Bws: First Cymru 120 neu 125 o Abertawe, Clydach, Pontardawe, Ystalyfera, Ystradgynlais. Diwrnodau'r wythnos bob hanner awr. Dydd Sul bob awr.